“Vale Not For Shale” Concert Update

  • 0
  • January 23, 2014

Vale Not For Shale Concert – Saturday 22nd Feb 2014 14:00-23:00 Cowbridge Town Hall

CLICK HERE TO BUY TICKETS

Four local anti-fracking groups are teaming up to put on a big music event in the heart of the Vale of Glamorgan.
The Vale Says No, Llantrithyd Villagers Against Drilling, Frack Free Wales and Friends of the Earth Barry & the Vale, are hosting the event to voice their strong opposition to current plans for test drilling and, eventually, fracking for shale gas in the Vale of Glamorgan.

A Bridgend-based company, Coastal Oil and Gas Ltd, has planning permission for four drilling sites in the Vale of Glamorgan and Rhondda Cynon Taf. They are planning to commence test drilling in 2014.

Concert organiser, Donal Whelan, said, “Once shale gas reserves are proven, Coastal Oil and Gas will sell on their exploration and development licenses (PEDLs) to the highest bidder. If that happens we can expect two to four multi-well drill pads per square mile in the Vale, many in unspoilt rural locations.
“Every well will need thousands of truck movements and millions of gallons of water. Each drill pad will create noise, light and air pollution. Every well operation also carries the proven risks of potential land and water contamination. This must not be allowed to happen.”

The concert is part of the campaign to raise public awareness of the dangers of fracking. It will also serve to build public support for the Balcombe-like protests that will happen when the drilling rigs arrive later this year.

Concert line-up so far includes Cian Ciaran of the Super Furries, electro-pop duo Trwbador and local legend Colum Regan, with more acts to be announced.

Tickets £10

CLICK HERE TO BUY TICKETS

Keep checking our website for more details.
http://www.llantrithyd.com/news/

Contact Donal Whelan – donal@hafodmastering.co.uk –
07977 001770

Mae pedwar grŵp gwrth-ffracio’n cydweithio i gynnal digwyddiad cerddorol mawr ym Mro Morgannwg nos Sadwrn 22 Chwefror 2014.
Mae The Vale Says No, Llantrithyd Villagers Against Drilling, Frack Free Wales a Chyfeillion y Ddaear Bro Morgannwg yn cynnal y digwyddiad i fynegi eu gwrthwynebiad cryf i gynlluniau cyfredol ar gyfer drilio arbrofol ac, yn y pen draw, ffracio am nwy carreg glai ym Mro Morgannwg.

Mae cwmni o Ben-y-bont ar Ogwr, Coastal Oil and Gas Ltd, wedi derbyn caniatâd ar gyfer pedwar safle drilio ym Mro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf. Maen nhw’n bwriadu dechrau drilio arbrofol yn ystod 2014.

Dywedodd Donal Whelan, trefnydd y gyngerdd: ‘Unwaith bydd tystiolaeth fod cronfeydd nwy carreg glai yma, bydd Coastal Oil and Gas yn gwerthu eu trwyddedau archwilio a datblygu am y pris gorau. Os bydd hyn yn digwydd, gallwn ni ddisgwyl gweld pedwar pad drilio aml-bwll i bob milltir sgwâr ym Mro Morgannwg, ar gyfartaledd.
‘Bydd pob pwll yn gofyn gwneud miloedd o deithiau cerbydau trymion ac yn defnyddio miliynau o alwyni o ddŵr. Bydd pob pad drilio’n achosi llygredd sŵn, golau ac aer. Bydd gweithredu pob pwll yn achosi risg a brofwyd o’r posibilrwydd o halogi tir a dŵr. Ni ddylai hyn fod yn cael digwydd.’

Mae’r gyngerdd sy’n cael ei chynnal nos Sadwrn 22 Chwefror yn un o nifer o ddigwyddiadau i gynyddu ymwybyddiaeth o beryglon ffracio. Bydd hefyd yn fodd o ennyn cefnogaeth y cyhoedd i brotestiadau gwrth-ffracio fel sydd wedi digwydd yn Balcombe yn ddiweddar pan fydd y llwyfannau drilio’n cyrraedd.
Hyd yma, cyhoeddwyd y bydd Cian Ciaran o’r Super Furries, y ddeuawd electro-bop Trwbador a’r cerddor digymar lleol Colum Regan yn perfformio. Caiff perfformwyr eraill eu cadarnhau yn y man.

Tocynnau £10

Ewch i’n gwefan am y manylion diweddaraf:
www.llantrithyd.com

Cysylltwch â Donal Whelan trwy e-bost donal@hafodmastering.co.uk<mailto:donal@hafodmastering.co.uk> neu dros y ffôn ar 07977 001770 am fanylion pellach.

UA-41996526-1